Ymweliadau rapporteur ar 12 Chwefror

 

Ar 12 Chwefror 2015, aeth Aelodau’r Pwyllgor Menter a Busnes ar nifer o ymweliadau rapporteur i glywed barn, ac i glywed am brofiadau, rhanddeiliaid sy’n gweithio gyda phobl dros 50 mlwydd oed, i’w helpu i ddod o hyd i gyflogaeth, a hefyd i glywed gan gyflogwyr sy’n cyflogi pobl dros 50 oed mlwydd oed.

 

Bu Aelodau’r Pwyllgor yn ymweld â’r lleoliadau canlynol:

·         Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

·         Cyngor Sir Benfro

·         Working Links (Caerdydd)

·         Cyngres yr Undebau Llafur Cymru

·         NIACE Cymru

·         John Lewis (Caerdydd)

 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw un o’r cyflogwyr mwyaf yng Ngogledd Cymru. Mewn partneriaeth â chwmni recriwtio allanol, mae’r bwrdd iechyd yn ymdrechu i ddatblygu mentrau cyfeillgar i oed annog ymgeiswyr newydd dros 50 mlwydd oed.

Hwn yw’r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, sy’n darparu ystod lawn o wasanaethau sylfaenol, gwasanaethau cymunedol, gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau ysbytai llym ar gyfer poblogaeth o oddeutu 676,000 o bobl mewn chwe sir yng ngogledd Cymru (Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam) yn ogystal â rhai rhannau o ganolbarth Cymru, Swydd Gaer a Swydd Amwythig. Mae’n cyflogi oddeutu 16,100 o staff ac mae ganddo gyllideb o oddeutu £1.2 biliwn. 

Mae’r Bwrdd Iechyd yn gyfrifol am weithrediad tri ysbyty cyffredinol (Ysbyty Gwynedd ym Mangor, Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan ac Ysbyty Maelor, Wrecsam) yn ogystal â 18 ysbyty cymuned ac ysbyty llym eraill, a rhwydwaith o oddeutu 90 o ganolfannau iechyd, clinigau, lleoliadau timau iechyd cymunedol ac unedau iechyd meddwl. Mae’r Bwrdd Iechyd hefyd yn cydgysylltu gwaith 115 practis Meddygon Teulu a gwasanaethau GIG a ddarperir gan ddeintyddion, optegwyr a fferyllfeydd yng Ngogledd Cymru.

 

Roedd y meysydd a drafodwyd yn y cyfarfod yn cynnwys:

·         Y Bwrdd Iechyd fel cyflogwr pobl dros 50 mlwydd oed

·         Recriwtio pobl dros 50 mlwydd oed;

·         Rhwystrau i gyflogaeth ar gyfer pobl dros 50 mlwydd oed;

·         Unrhyw argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru

 

Cyngor Sir Benfro

Cyflwynodd Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru dystysgrif i Gyngor Sir Benfro ym mis Hydref 2014 i nodi cymeradwyaeth y Cyngor o Ddatganiad Dulyn 2013. Mae Datganiad Dulyn yn datblygu argymhelliad Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer creu Cymunedau sy’n Gyfeillgar i Oed, yn ogystal â rhaglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru Llywodraeth Cymru, sydd â’r nod o wella lles pobl sydd dros 50 mlwydd oed.

Cymunedau sy’n Gyfeillgar i Oed

Roedd Cymunedau sy’n Gyfeillgar i Oed (AFC) yn Brosiect INTERREG 4a a ariannwyd rhwng Iwerddon a Chymru, ac a ariannwyd yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Mae’n dwyn ynghyd y pum partner canlynol yn Iwerddon a Chymru, i ddatblygu strategaethau sy’n pontio’r cenedlaethau (lleol a rhyngwladol), ac i dreialu gweithgareddau perthnasol:

·         Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (Partner Arweiniol - Cymru)

·         Rhwydwaith Heneiddio’n Dda (Iwerddon) - sefydliad dielw sy’n gweithio gyda Chyngor Sir Kildare

·         Cyngor Sir Ynys Môn (Cymru)

·         Cyngor Sir Kilkenny (Iwerddon)

·         Cyngor Sir Benfro (Cymru)  

Amcanion y prosiect oedd:

·         Creu cymuned fywiog i bawb, drwy gefnogi datblygiad strategaethau sy’n pontio’r cenedlaethau ar draws ffiniau ac ar lefel leol;

·         Creu cymunedau cydlynol drwy roi prosiectau peilot ar waith sy’n targedu cynhwysiad cymdeithasol pobl hŷn yn y gymdeithas;

·         Casglu, diogelu a chadw treftadaeth ddiwylliannol, drwy atgyfnerthu delwedd gadarnhaol pobl hŷn yn y gymdeithas;

·         Sicrhau lles pobl drwy annog gweithgareddau dysgu gydol oes.

 

Roedd y meysydd a drafodwyd yn y cyfarfod yn cynnwys:

·         Cymunedau sy’n Gyfeillgar i Oed;

·         Cyngor Sir Benfro fel cyflogwr pobl dros 50 mlwydd oed;

·         Arfer y Cyngor o recriwtio gweithwyr newydd dros 50 mlwydd oed;

·         Rhwystrau i gyflogaeth ar gyfer pobl dros 50 mlwydd oed;

·         Unrhyw argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru

 

 

Working Links

Mae Working Links yn gwmni cyhoeddus-preifat-gwirfoddol ledled y DU sydd â chyfranddalwyr. Ers 2000, maent wedi helpu 30,000 o bobl yng Nghymru i sicrhau cyflogaeth.

 

Ers mis Mehefin 2011, Working Links Cymru fu un o’r ddau ddarparwr y Rhaglen Waith yng Nghymru. Mae ganddynt 15 o swyddfeydd ledled Cymru yn ogystal â 20 o safleoedd partner sy’n cyflawni’r Rhaglen Waith yn uniongyrchol ar eu rhan, fel Coleg Sir Benfro, Cyngor Dinas Casnewydd, Hyfforddiant Torfaen, Remploy ac Agoriad Cyf.

 

Mae Working Links hefyd yn gyfrifol am Ddewis Gwaith (ar gyfer hawlwyr budd-daliadau anabl), am Leoliadau Gwaith Cymunedol (ar gyfer hawlwyr ar ôl y Rhaglen Waith) ac am y Contract Cronfa Cymorth Hyblyg (FSF) yn Ne-ddwyrain Cymru. Darperir y Gronfa Cymorth Hyblyg ar gyfer hawlwyr o ddechrau eu cyfnod hawlio budd-dal, ac roedd Working Links hefyd yn gyfrifol am gontract FSF arall sy’n canolbwyntio ar gymorth ar ôl y Rhaglen Waith yn Abertawe ym mis Ionawr 2015. Ym mis Hydref 2014, cadarnhawyd Working Links fel y cynigydd a ffefrir yng Nghymru i gynnal y rhaglen Gweddnewid Adsefydlu y Weinyddiaeth Cyfiawnder.

 

Roedd y meysydd a drafodwyd yn y cyfarfod yn cynnwys:

·         Rhwystrau i gyflogaeth ar gyfer pobl dros 50 mlwydd oed;

·         Y gefnogaeth sydd ar gael i helpu pobl dros 50 mlwydd oed yn ôl i weithio;

·         Recriwtio pobl dros 50 mlwydd oed;

·         Unrhyw argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru

 

 

Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu arweiniad a chymorth ariannol i Gyngres yr Undebau Llafur yng Nghymru, i’w helpu i ymestyn cyfleoedd dysgu, i ddatblygu partneriaethau ac i wneud y gorau o effaith cynrychiolwyr dysgu’r undebau. Unionlearn yw sefydliad dysgu a sgiliau y TUC. Mae’n gweithio i gynorthwyo undebau i ddarparu cyfleoedd dysgu ar gyfer eu haelodau, yn ogystal â rheoli Cronfeydd Dysgu’r Undebau.

 

Roedd y meysydd a drafodwyd yn y cyfarfod yn cynnwys:

·         Hyfforddiant ar gyfer pobl dros 50 mlwydd oed;

·         Rhwystrau i gyflogaeth ar gyfer pobl dros 50 mlwydd oed;

·         Recriwtio pobl dros 50 mlwydd oed;

·         Unrhyw argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru

 

 

Y Sefydliad Cenedlaethol dros Addysg Barhaus i Oedolion (NIACE)

Y Sefydliad Cenedlaethol dros Addysg Barhaus i Oedolion (NIACE) yw’r sefydliad cenedlaethol, annibynnol ar gyfer dysgu i oedolion yng Nghymru a Lloegr. Mae NIACE yn hyrwyddo buddiannau pob dysgwr a darpar ddysgwr sy’n oedolyn, yn enwedig y rhai sydd wedi elwa leiaf ar addysg a hyfforddiant. Ceisia NIACE gyflawni hyn drwy:

·         Gynnal ymgyrchoedd proffil uchel fel yr Wythnos Addysg Oedolion, Tymor Cofrestru a Chymryd y Llyw;

·         Cynnwys y cyfryngau lleol a chenedlaethol;

·         Cyflawni gwaith ymchwil, datblygu ansawdd a gwaith gwerthuso o safon uchel;

·         Darparu gwasanaethau ymgynghori, cyngor a chymorth arbenigol;

·         Cynnwys gwneuthurwyr polisïau;

·         Cefnogi camau i rwydweithio gydag ymarferwyr, gwneuthurwyr polisïau ac ymchwilwyr;

·         Cyhoeddi llyfrau a chyfnodolion blaenllaw;

·         Lledaenu gwybodaeth arbenigol; a

·         Darparu cyrsiau hyfforddiant hyblyg a phersonol.

 

Roedd y meysydd a drafodwyd yn y cyfarfod yn cynnwys:

·         Hyfforddiant ar gyfer pobl dros 50 mlwydd oed;

·         Rhwystrau i gyflogaeth ar gyfer pobl dros 50 mlwydd oed;

·         Unrhyw argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru

 

John Lewis

Mae Partneriaeth John Lewis yn fusnes cydberchnogol. Daw pob person sy’n cael ei recriwtio o’r newydd i John Lewis yn bartner yn y busnes, sy’n cael dweud ei ddweud am y modd y caiff y busnes ei redeg, a chyfran o’r elw. Agorodd John Lewis eu siop yng Nghaerdydd ym mis Medi 2009. Ar amser yr agoriad, roedd John Lewis yn cyflogi dros 800 o bobl yng Nghaerdydd; hon oedd y siop adrannol fwyaf yng Nghymru a’r siop John Lewis fwyaf y tu allan i Lundain.

 

Roedd y meysydd a drafodwyd yn y cyfarfod yn cynnwys:

·         Partneriaid John Lewis sydd dros 50 mlwydd oed;

·         Recriwtio pobl dros 50 mlwydd oed;

·         Rhwystrau i gyflogaeth ar gyfer pobl dros 50 mlwydd oed;

·         Unrhyw argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru